Gŵyl Gerdd Hŷn 2018
Cynhaliodd Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yr Ŵyl Gerdd Hŷn flynyddol dros ddwy noson yn ystod mis Mawrth, yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach. Dros y ddwy noson ymddangosodd dros 300 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled y sir ar y llwyfan. Mae’r grwpiau hŷn yn ymarfer yn fisol neu ar gyrsiau undydd, ac roedd y cyngherddau’n gyfle i arddangos canlyniad dau dymor o waith caled gan y disgyblion a’r…